Description
Eye Care Liaison Officer (ECLO)
Salary: £30,550 fte (£24,440 pro rata)
Contract type: Permanent Contract
Hours: 28 hours per week
Location: Eye Clinic, Ysbyty Gwynedd Hospital,
Closing date: Sunday 12 January 2024 (midnight)
We’re the Royal National Institute of Blind People (RNIB) and we’re here for everyone affected by sight loss. Working for us means working for one of the UK’s biggest charities, supporting almost two million people living with sight loss in the UK.
RNIB is leading the creation of a world where there are no barriers for people with sight loss. One of our key priorities is to ask people to see sight loss differently, reversing inaccurate perceptions and changing public behaviours so everyone expects equal participation from people with sight loss and the creation of a fully accessible society.
We are pleased to announce this exciting opportunity to join our flagship UK Eye Care Support Service and the ECLO team in Wales.
In this role you will be working directly with people with sight loss, and those diagnosed with a condition which may cause sight loss in the future, as well as their families and carers. Providing understanding, information, and essential emotional support, you will support people to make informed choices which enable and empower them to maintain their independence and face the future with confidence.
Working across a large ophthalmology department you will work closely alongside clinicians and will develop strong partnerships across social care, community support and other local and national organisations.
For more information on what it’s like to be an ECLO, please follow the links below:
What we are looking for
You will have proven experience of delivering information and advice services working directly with the people you are supporting. Key to this role will be your excellent communication and relationship building skills with patients, clinicians, and a wide range of cross sector partners.
You should be confident to work on your own initiative, have excellent organisational skills and be a confident user of IT systems. Impeccable record keeping skills are also key to this role.
How to Apply
To be considered, you must respond to the questions in our short application form and submit your CV. If you’re having difficulty applying, please contact
Closing date for completed applications: Sunday 5 January
Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid (ECLO)
Cyflog: £30,550 cyfwerth ag amser llawn (£24,440 pro rata)
Math o Gontract: Contract Parhaol
Oriau: 28 awr yr wythnos
Lleoliad: Clinig Llygaid, Ysbyty Gwynedd, Ffordd Penrhos, Bangor. LL57 2PW
Dyddiad cau: Dydd Sul 12 Ionawr 2024 (hanner nos)
Ni yw’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) ac rydym yma i bawb sy’n cael eu heffeithio gan golled golwg. Mae gweithio i ni yn golygu gweithio i un o elusennau mwyaf y DU, gan gefnogi bron i ddwy filiwn o bobl sy’n byw gyda cholled golwg yn y DU.
Mae’r RNIB yn arwain y gwaith o greu byd lle nad oes rhwystrau i bobl sydd â cholled golwg. Un o’n blaenoriaethau allweddol ni yw gofyn i bobl weld colled golwg yn wahanol, gan wyrdroi canfyddiadau anghywir a newid ymddygiad y cyhoedd fel bod pawb yn disgwyl cyfranogiad cyfartal gan bobl sydd â cholled golwg a chreu cymdeithas gwbl hygyrch.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r cyfle cyffrous hwn i ymuno â’n Gwasanaeth Cefnogi Gofal Llygaid blaenllaw ni yn y DU a’r tîm ECLO yng Nghymru.
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd â cholled golwg, a phobl sy’n cael diagnosis o gyflwr a allai achosi colled golwg yn y dyfodol, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Gan ddarparu dealltwriaeth, gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol hanfodol, byddwch yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus sy’n eu galluogi a’u grymuso i gynnal eu hannibyniaeth ac wynebu’r dyfodol yn hyderus.
Gan weithio ar draws adran offthalmoleg fawr byddwch yn gweithio’n agos ochr yn ochr â chlinigwyr ac yn datblygu partneriaethau cadarn ar draws gofal cymdeithasol, cefnogaeth gymunedol a sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am sut beth yw bod yn ECLO, dilynwch y dolenni isod:
Gwasanaeth ECLO yr RNIB – YouTube
Hysbyseb teledu Apêl Newidwyr Bywyd yr RNIB – YouTube
Diwrnod ym Mywyd ECLO – Gwefan yr RNIB
Beth rydym yn chwilio amdano
Bydd gennych brofiad clir o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor gan weithio’n uniongyrchol gyda’r bobl rydych yn eu cefnogi. Yn allweddol i’r rôl hon fydd eich sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol gyda chleifion, clinigwyr, ac ystod eang o bartneriaid traws-sector.
Dylech fod yn hyderus i weithio ar eich liwt eich hun, bod â sgiliau trefnu rhagorol a bod yn ddefnyddiwr hyderus o systemau TG. Mae sgiliau cadw cofnodion manwl gywir yn allweddol i’r rôl hon hefyd.
Sut i Wneud Cais
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi ymateb i’r cwestiynau ar ein ffurflen gais fer a chyflwyno eich CV. Os ydych chi’n cael anhawster gwneud cais, cysylltwch â
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau: Dydd Sul 12 Ionawr